Cwmni blaenllaw yng Ngogledd Cymru sy’n cyflenwi a gosod stôfs
Mae Gwasanaeth Stôf a Ffliw’n darparu gwasanaeth llawn ar gyfer stôfs llosgi coed ac aml-danwydd; o’r arolwg cychwynnol i’r gwaith gosod, ac yna’r gwaith cynnal parhaus. Rydym hefyd yn cyflenwi bob math o stôfs nwy a thrydan hefyd, yn barod i’ch trydanwr (os bydd angen) neu ffitiwr nwy eu gosod. Rydym yn Gwmni Cofrestredig HETAS ar gyfer gwaith gosod, rydym hefyd wedi cofrestru gyda CHAS, ac rydym yn gweithio drwy Wynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod sut y gallwn wneud eich cartref yn glyd a chynnes.
Arolygiadau ac Archwiliadau
Fel rhan o’r gwaith o osod unrhyw stôf byddwn bob amser yn cynnig arolwg am ddim heb unrhyw orfodaeth i brynu er mwyn asesu unrhyw ffliw neu simnai sydd gennych. Bydd canlyniadau’r arolwg yn dangos os bydd angen gwneud archwiliad manylach (bydd tâl posibl am hwn):
- Profion mwg
- Arolygon teledu cylch cyfyng
Simneiau a Ffliwiau
Ym mhob cartref mae her wahanol yn ein hwynebu, ac ar sail ein profiad helaeth gallwn gynnig dewis eang o wahanol simneiau/ffliwiau:
- Gosod leininau ffliw hyblyg dur gwrthstaen mewn simneiau
- Gosod simnai dwy-wal wedi’i hinswleiddio ar gyfer cartrefi heb simnai’n barod, mewnol ac allanol
- Gosod simnai dwy-wal wedi’i hinswleiddio yn lle simnai sydd wedi’i gostwng yn is na lefel y to
Rydym wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer yr holl systemau a gyflenwir ac mae gennym gymwysterau ar wahân ar gyfer ail-leinio ffliwiau gyda leininau hyblyg, systemau simneiau dwy wal, gosod stôfs llosgi coed ac aml-danwydd sych, ac rydym wedi cael hyfforddiant ar Reoliadau a Safonau Tanwydd Solet HETAS
Gosod a Chomisiynu
Gallwn eich sicrhau ein bod yn gofalu am bopeth wrth wneud gwaith gosod; o unrhyw waith adeiladu angenrheidiol hyd at y gwaith gosod ei hun a chomisiynu. Nid ydym yn dibynnu ar unrhyw gontractwr trydydd parti, ac rydym yn glanhau ar ein holau!
- Gosod stôfs llosgi coed, aml-danwydd
- Gosod llefydd tân
- Unrhyw waith adeiladu angenrheidiol (e.e. agor brest simnai i greu cil pentan, gosod siambrau ayb.)
- Comisiynu, cofrestru eich stôf gyda HETAS (fydd hefyd yn rhoi gwybod i adran rheoli adeiladu eich awdurdod lleol) a darparu’r Dystysgrif Comisiynu
Gwasanaethu, Cynnal ac Ôl-ofal
Nid yw ein gwasanaeth yn dod i ben ar ôl gosod eich stôf. Rydym yn darparu gwasanaeth o’r lefel uchaf i gwsmeriaid a dewis llawn o archwiliadau diogelwch a gwarant a chynnal a chadw:
- Archwiliadau a phrofion gwarant / diogelwch blynyddol
- Tystysgrifau Diogelwch HETAS Perchennog tŷ / Landlord / Tenant
- Gwaith cynnal a thrwsio heb ei drefnu fel y bo angen