Cwestiynau Cyffredin

Cliciwch ar y cwestiynau i weld yr atebion. Ond cofiwch, rydym yma i’ch helpu, felly os hoffech gael arolwg neu os oes gennych gwestiwn penodol ynglŷn â gosod stôf yn eich cartref mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01286 880707 neu e-bostiwch [email protected].

Cwestiynau cyffredinol Cwestiynau ynglŷn â gosod a chynnal arolwg Cwestiynau ynglŷn â gwasanaethu a chynnal Cwestiynau ynglŷn â thystysgrif Diogelwch / HETAS

Cwestiynau cyffredinol

Ateb: Ydym! Er mai Gwasanaeth Stôf a Ffliw yw enw’r cwmni rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn o archwilio, i werthu, gosod a gwasanaethu.

Ateb: Rydym yn derbyn taliad arian parod, siec, cerdyn a BACS / trosglwyddiad banc.

Ateb: Our showroom will be opening soon, with viewings by appointment only. Cliciwch yma i fynd i’n tudalen Cysylltwch i weld ein cyfeiriad a map. Mae’r ystafell arddangos yn agored drwy apwyntiad yn unig, felly ffoniwch cyn dod draw.

Ateb: Nac ydym, rydym yn gall cyflenwi stôfs nwy ond bydd angen Plymer wedi’i gofrestru gyda Gas Safe i gysylltu a chomisiynu’r stôf. Peiriannydd Gas Safe fydd yn gyfrifol am ddarparu’r Dystysgrif briodol ar gyfer y gwaith. Gyda phob stôf drydan cewch blwg 13 aml er mwyn ei blygio i soced safonol. Nid ydym yn gymwys i wneud unrhyw waith trydanol.

Ateb: Ydym, rydym yn darparu gwasanaeth llawn yn cynnwys yr holl waith adeiladu angenrheidiol (ac rydym yn glanhau ar ein holau!)

Ateb: Nac ydym, dim ond cyflenwi a gosod stôfs heb eu cysylltu â system gwres canolog.

Ateb: Ydym, rydym yn fodlon gwerthu i gwsmer a gosod, neu werthu i gwsmer ac yna bod rhywun arall yn gosod y nwyddau, neu werthu’n uniongyrchol i rywun sy’n gosod.

Ateb: Rydym yn gweithio’n bennaf yng Ngogledd Cymru, ac yn cludo nwyddau o fewn 40 milltir. Gallwn werthu rhai nwyddau ledled y wlad a’u hanfon drwy gwmni cludiant (am gost ychwanegol yn ôl maint a phwysau’r stôfs), ond oherwydd cytundebau gyda gweithgynhyrchwyr ni allwn werthu ein nwyddau y tu allan i’n hardal, cysylltwch â ni os oes gennych anghenion penodol a gallwn eich cynghori.

Ateb: Nac ydi, mae glo a thanwyddau solet yn llosgi’n boethach ac mae gwahaniaeth yn y ffordd y caiff stôfs llosgi oed a rhai aml-danwydd eu hadeiladu.

Cwestiynau ynglŷn â gosod a chynnal arolwg

Ateb: Bydd yr ateb yn dibynnu ar oed eich cartref a sut mae wedi’i adeiladu. Mewn cartrefi newydd heb le tân gallwn osod simnai dwy wal naill ai’n fewnol neu’n allanol. Byddai angen gwneud arolwg mewn tai gyda lle tân yn barod i weld a fyddai’r ffliw’n addas neu angen ei leinio.

Ateb: Dim o reidrwydd, byddwn yn cynnal arolwg bob amser i weld a oes angen ail-leinio eich simnai ai peidio.

Ateb: Nac ydym, cewch amcangyfrif am ddim, heb unrhyw orfodaeth i brynu.

Ateb: Ydym, ond dim ond os bydd yr arolwg cychwynnol (sydd am ddim) wedi dangos bod angen archwiliad manylach. Trafodir yr holl brisiau yn eich amcangyfrif personol.

Cwestiynau ynglŷn â gwasanaethu a chynnal

Ateb: Ydym, ond cofiwch mai dim ond ein nwyddau ein hunain yr ydym yn eu gwasanaethu a’u cynnal. Rydym yn argymell bod yr holl stôfs a leininau’n cael eu harchwilio, eu glanhau a’u gwasanaethu o leiaf unwaith y flwyddyn fel rhan o gynnal a chadw cyffredinol er mwyn ymestyn eu hoes a sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio. Fel arfer mae hyn yn rhan o delerau’r gofynion gwarant.

Ateb: Archwiliad trylwyr o holl rannau’r stôf a’r seliau, glanhau’r ffliw, prawf o dynfa’r mwg i sicrhau bod y ffliw’n tynnu’n effeithiol ac archwiliad o synwyryddion carbon y cwsmer, a darparu Tystysgrif Diogelwch HETAS y perchennog tŷ / landlord / tenant. Mae cyfradd safonol o £80 +TAW am y gwasanaeth hwn. Bydd cost ychwanegol am unrhyw rannau neu ddeunyddiau y bydd eu hangen.

Ateb: Dim ond fel rhan o osod stôfs a gwasanaethu rheolaidd. Rydym yn gweithio gyda glanhawr simnai lleol ar gyfer gwaith glanhau rheolaidd.

Cwestiynau ynglŷn â thystysgrif Diogelwch / HETAS

Ateb: Mae Gwasanaeth Stôf a Ffliw yn Gwmni sydd wedi Cofrestru gyda HETAS i wneud gwaith gosod. Ar ôl gosod eich stôf byddwn yn rhoi Tystysgrif Comisiynu i chi ac yn cofrestru eich stôf gyda HETAS, fydd yn rhoi gwybod i adran rheoli adeiladu eich awdurdod lleol. Yna bydd HETAS yn anfon y Dystysgrif Cydymffurfio yn uniongyrchol atoch fel arfer o fewn 30 diwrnod i’r gwaith gosod.

Ateb: Ydi, gallwch gael copi swyddogol ond dim ond gan HETAS drwy www.hetas.co.uk, mae tâl o tua £18 am hyn. Gan fod yr holl wybodaeth am stôfs a osodir yn cael ei chofnodi’n electronig arlein, bydd y Dystysgrif Cydymffurfio yn cael ei hanfon atoch chi, y cwsmer, yn uniongyrchol gan HETAS ar ôl ei chwblhau, felly nid oes gennym unrhyw gopïau o’r Tystysgrifau Cydymffurfio.

 

Anfon e-bost... Arhoswch...